P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Lemon, ar ôl casglu 260 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y cytundeb masnachfraint ar gyfer gweithredwr newydd Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau er mwyn gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i Gas-gwent.  Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y bydd Cross Country yn rhoi'r gorau i redeg trenau o Gas-gwent.  Mae'r bwriad i redeg dim ond un trên yr awr i dref o faint a phwysigrwydd Cas-gwent - pen pellaf y rheilffordd yn Nyffryn Gwy - yn wael dros ben, o'i gymharu â'r gwasanaeth yn nhrefi eraill ein sir a rheilffyrdd y cymoedd. Dylid darparu dau drên bob awr o leiaf. Rydym yn cydnabod bod angen annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle'u ceir er mwyn helpu'r amgylchedd. Mae'r gwaith o wella gwasanaethau trên yn gam tuag at hyn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Anfonwyd sylwadau'n tynnu sylw at hyn cyn dyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau. Ymddengys bod y sylwadau hyn wedi'u diystyru.  

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Mynwy

·         Dwyrain De Cymru